Mae Elusen FAN yn annog unigolion a sefydliadau i redeg Grwpiau FAN annibynnol lle gall pobl gwrdd mewn ysbryd o gyfeillgarwch. Mae nhw'n adnodd ardderchog ar gyfer cymunedau. Rydym ni am i unrhyw un sydd yn mwynhau cwrdd ag eraill neu sydd yn unig ddarganfod y grŵp agosaf, ac i fod yn siŵr o gwrdd â gwyneb cyfeillgar.
Mae FAN yn sefyll am Gyfeillion a Chymdogion (Friends and Neighbours). Pwy yw fy nghyfaill? Pwy yw fy nghymydog? Dewch i un o gyfarfodydd FAN ac mi wnewch chi gyfarfod â ffrindiau a chyfeillion a theimlo'n fwy gobeithiol am y byd. Mae'n gyfle gwych i bobl leol gwrdd â newydd-ddyfodiaid. Mae cyn lleied o bobl yn adnabod eu holl gymdogion y dyddiau hyn!
Dewisom ni logo ar gyfer FAN gyda map o'r byd oherwydd ein bod yn breuddwydio am Grwpiau FAN ar draws y byd – teulu rhyngwladol mawr yn cydio dwylo mewn cyfeillgarwch.
Mae llawer o fynychwyr FAN hefyd yn ymweld â grwpiau FAN eraill, gan fwynhau taith i ardal gyfagos, cwrdd a phobl newydd a chysylltu teulu FAN ynghyd.
Mae Grwpiau Fan yn gweithredu yn yr un ffordd ar yr un egwyddorion. Yn y cyfarfod (sy'n para am awr fel arfer) rydym ni'n eistedd mewn cylch, gyda the neu goffi, ac yn darllen y datganiad agoriadol. Rydym yn siarad dim ond pan ddaw ein tro. Rydym yn gwrando ar bob siaradwr mewn distawrwydd ac yn sgwrsio ar ol y cyfarfodydd. Os ydych chi'n dysgu Saesneg, gall llawer o Grwpiau FAN gael hyd i siaradwyr Saesneg FAN sy'n barod i'ch helpu. Does dim tâl am ddod! Gallwn roi cyfraniad gwirfoddol. Does gan y rhan fwyaf o gyrddau ddim cyfleusterau ar gyfer plant.
Dewch i un o Grwpiau FAN a rhannu awr gyda ni – p'un a ydych yn preswylio'n lleol neu'n ymweld – byddem ni wrth ein bodd yn cwrdd â chi!